Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Mehefin 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
NDM6323 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Gosodwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Rhagfyr 2016.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 24 Mai 2017.
Dogfennau Ategol
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
(Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(5 munud)
NDM6324
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw
ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r
Tribiwnlys Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant
o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o
ganlyniad i'r Bil.
(60 munud)
NDM6321
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi'i gyhoeddi.
2.
Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau
Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol:
a)
fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy'n creu budd
i'r cyhoedd a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a
b) o
safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi
cymunedau gwledig bywiog.
3.
Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y
syniad o fro, sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r modd y mae
llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i
le penodol."
'Tirweddau'r
Dyfodol: Cyflawni dros Gymru'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu nad yw'r adroddiad yn ymdrin ag Egwyddor Sandford fel y'i nodir yn Neddf yr Amgylchedd 1995.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol.
NDM6320 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Y Fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru 2017 wedi'i gyhoeddi.
2.
Yn nodi i'r fframwaith gael ei gyhoeddi gyda nyrsys ysgol rheng
flaen ac iddo gymryd i ystyriaeth yn uniongyrchol, farn plant
oedran ysgol.
3.
Yn nodi bod nyrs ysgol wedi'i henwi ym mhob ysgol uwchradd a'r
ysgol gynradd fwydo gysylltiedig ar hyn o bryd a bod y fframwaith
yn cymeradwyo bod gan blant ysgol yng Nghymru fynediad estynedig
drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys gwyliau ysgol ac yn cynnwys
safonau cyffredinol ar gyfer darparu gwasanaethau.
4.
Yn nodi bod y fframwaith yn elfen allweddol ac yn sail i Raglen
Plant Iach Cymru (0-7 oed) a bod posibilrwydd y caiff ei estyn i
grwpiau oedran hŷn.
'Fframwaith ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru 2017'
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 7 Mehefin 2017